Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
16 Gorffennaf 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5674
------
Gwnaeth y Llywydd, ar ran y Cynulliad, ddatganiad yn estyn cydymdeimladau â theulu a chyfeillion y cyn-Aelod Rod Richards.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Atebodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip y 6 chwestiwn yn y 15 munud olaf o’r sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.
Dechreuodd yr eitem am 14.50
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Dechreuodd yr eitem am 16.33
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Dechreuodd yr eitem am 18.14
NDM7120 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.19
NDM7121 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.24
NDM7122 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7123 - Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Deddfwriaeth (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.31
Daeth y cyfarfod i ben am 18.32
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2019